Ymateb Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd dan yr enw Ymchwiliad i Glastir.

 

Tachwedd 2012

 

 

Yn gynharach eleni penderfynais, ar sail yr hyn yr oeddwn wedi'i glywed am Glastir, y dylwn roi cyfle ffurfiol i bawb sy'n ymwneud â'r cynllun ddweud eu barn, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol. Roedd y broses Pwyso a Mesur yn brofiad cadarnhaol iawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a gyfranogodd ac a gyfrannodd at y canfyddiadau. Cefais fy nghalonogi'n arbennig gan y ffaith fod y mwyafrif o'r rhai a ymatebodd yn cydnabod mai Glastir yw'r unig ffordd realistig ymlaen i gyflawni'r canlyniadau allweddol y lluniwyd Glastir ar eu cyfer.

Am nifer o resymau, ni chafodd Glastir y dechrau gorau. Roedd y newidiadau cyson, niferus - hyd yn oed y rhai a gafodd eu hargymell gan randdeiliaid ac a oedd yn fanteisiol i’r gymuned ffermio - yn aml yn achosi dryswch a drwgdeimlad tuag at y cynllun. Nodais yn glir mai un o'r prif bethau yr oedd ei angen o'r broses Pwyso a Mesur oedd cyfnod o sefydlogrwydd er mwyn i ffermwyr wybod yn iawn beth oedd yr ymrwymiad wrth ymuno â'r cynllun. Eglurais ar ddiwedd y broses Pwyso a Mesur na fyddwn yn cyflwyno unrhyw newidiadau pellach i'r cynllun, oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol.

Ers y broses Pwyso a Mesur, mae'n ymddangos bod y teimladau tuag at Glastir wedi newid yn ddramatig, a bod y diwydiant bellach yn gweld Glastir mewn golau llawer mwy cadarnhaol. Mae'r taliadau cyntaf dan Glastir Sylfaenol a Glastir - Tir Comin wedi'u dosbarthu i ffermwyr y mis hwn, ac wrth i ffermwyr yn ein hen gynlluniau amaeth-amgylcheddol weld y trefniadau ymestyn a osodwyd i hwyluso'r trawsnewid i Glastir yn dod i ben, mae llawer mwy o ffermwyr yn troi at fy swyddogion i ofyn beth yn union sydd gan Glastir i'w gynnig.

Mae Glastir - Tir Comin yn adeiladu ar lwyddiant anhygoel y flwyddyn gyntaf ac mae rhai tiroedd comin hefyd yn bwriadu cynyddu eu hymrwymiad at yr amgylchedd drwy ymuno â Glastir Uwch. Mae Grantiau Glastir Uwch a'r Grantiau Effeithiolrwydd (ACRES gynt) yn parhau i fod yn boblogaidd iawn. Mae Glastir – Creu Coetir hefyd yn boblogaidd ac mae'r ffermwyr sy'n ymuno â'r elfen hon o'r cynllun, fel eu cyd ffermwyr sy'n ymuno ag elfennau eraill o'r cynllun, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i dargedau newid hinsawdd ac amcanion amgylcheddol eraill.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd am yr ‘Ymchwiliad i Glastir’ ac am y cyfle i roi tystiolaeth lafar yn ystod sesiwn graffu'r Pwyllgor yn Sioe Frenhinol Cymru eleni. Rwy'n arbennig o falch o nodi bod casgliadau'r ymchwiliad yn debyg iawn i gasgliadau'r broses Pwyso a Mesur Glastir ac rwy'n teimlo, gyda'i gilydd, bod y ddau adroddiad yn rhoi sylwadau teg a defnyddiol ar ffyrdd y gallwn barhau i wella Glastir.

Wrth dderbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion yn llawn a chytuno mewn egwyddor â'r gweddill, mae'n amlwg fy mod i a'm swyddogion yn mynd i’r cyfeiriad cywir. Yn hyn o beth, rwy'n diolch i'r pwyllgor am eu cefnogaeth i Glastir.

 

Argymhelliad 1. Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu a chyhoeddi cynllun cyfathrebu strategol cychwynnol ar gyfer Glastir erbyn mis Ionawr 2013. Yn ei chynllun cyfathrebu, dylai Llywodraeth Cymru nodi'r hyn y bydd yn ei wneud i gyfathrebu â'r ffermwyr hynny sydd eisoes yn rhan o Glastir ac i sicrhau bod dulliau priodol yn cael eu defnyddio i gyfathrebu â darpar ymgeiswyr. Os bydd y gwaith cyfathrebu hwn yn cael ei wneud gan asiantaethau gwahanol, dylai'r cynllun nodi'n glir y rhai a fydd yn bennaf gyfrifol am y gwahanol agweddau ar y gwaith.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae adnoddau ychwanegol wedi’u clustnodi i gyflawni'r argymhelliad hwn. Bydd cynllun cyfathrebu strategol ar gyfer Glastir, sy’n cwmpasu anghenion ymgeiswyr sydd eisoes yn rhan o Glastir a darpar ymgeiswyr, yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2013. Yn y cyfamser, mae cryn dipyn o waith cyfathrebu yn digwydd drwy sianelau fel cylchgrawn Gwlad, Gwlad ar-lein, Cyswllt Ffermio a'r Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm.

 

Goblygiadau Ariannol: Dim. Bydd y costau’n cael eu talu o gyllidebau sydd eisoes yn bodoli.

 

 

Argymhelliad 2. Dylai Llywodraeth Cymru baratoi adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor yn dangos hynt ei chynllun cyfathrebu strategol ar gyfer Glastir, ac yn ymwneud yn benodol â'r camau y bydd yn eu cymryd i roi gwybod i ffermwyr am ddulliau o dalu am waith cyfalaf a Glastir Uwch (yr Elfen wedi'i Thargedu gynt). Byddai'n ddefnyddiol pe bai'r Pwyllgor yn cael yr adroddiad cynnydd hwn cyn y caiff adroddiad blynyddol y Llywodraeth ar Glastir ei gyhoeddi yn 2013.

 

Ymateb: Derbyn

 

Bydd y cynllun cyfathrebu strategol yn cwmpasu pob elfen o'r cynllun gan gynnwys y rhai a nodwyd yn benodol gan y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor yn cael adroddiad cynnydd, yn unol â’r cais.

 

Goblygiadau Ariannol :  Dim. Bydd y costau’n cael eu talu o gyllidebau sydd eisoes yn bodoli.

 

 

Argymhelliad 3. Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i weld a yw'r diffyg cymorth gan swyddogion ar y fferm wedi amharu ar y nifer sy'n gwneud cais am rai o opsiynau Glastir, a dylai gyhoeddi'r canlyniadau erbyn mis Ionawr 2013.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Fel y gwelir gyda'r rhan fwyaf o gynlluniau wedi'u seilio ar opsiynau, mae rhai yn fwy poblogaidd neu ymarferol nag eraill.  Mae nifer sylweddol o'r opsiynau newydd a gyflwynwyd ar ôl adolygiad Rees Roberts wedi denu ychydig iawn o geisiadau hyd yma. Fodd bynnag, cafodd yr opsiynau hyn eu cyflwyno ar ddiwedd 2011, ac mewn un cylch ceisiadau yn unig maent wedi'u profi’n llawn hyd yma. Bydd Llywodraeth Cymru'n adolygu poblogrwydd pob opsiwn ar ddiwedd 2013, i asesu a yw'r nifer isel o geisiadau yn adlewyrchu diffyg gwybodaeth, diffyg cymorth gan swyddogion ar y fferm neu resymau eraill e.e. ei fod yn anaddas ar gyfer cynllun sylfaenol eang. Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio wrth wneud unrhyw newidiadau i Glastir dan y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf.

 

Goblygiadau Ariannol : Niwtral o ran cost.  Bydd unrhyw gostau ychwanegol sy’n codi yn sgil newidiadau o ganlyniad i'r argymhelliad hwn yn cael eu talu o gyllideb gyffredinol Glastir.

 

 

Argymhelliad 4. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno gwybodaeth am y cynnydd a wneir o ran darparu cymorth uniongyrchol i ffermwyr, a hynny erbyn mis Ionawr 2013, gan nodi faint o'r cymorth hwn a gynigir ar y fferm.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi ei rhaglen o gymorth i ffermwyr ar gyfer ymgeiswyr Cynllun Glastir Sylfaenol y flwyddyn nesaf ym mis Ionawr 2013.

 

Goblygiadau Ariannol :  Dim. Bydd y costau’n cael eu talu o gyllidebau sydd eisoes yn bodoli.

 

 

Argymhelliad 5. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ganlyniad yr adolygiad o ofynion cadw cofnodion Glastir, ac ar unrhyw newidiadau a gynigir o ganlyniad i'r adolygiad hwnnw, gan wneud hynny erbyn diwedd mis Tachwedd 2012.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae swyddogion wedi adolygu'r gofynion cadw cofnodion ac wedi gweithredu'r newidiadau. Bydd modd i ffermwyr weld y manylion yn Gwlad. Byddaf yn ysgrifennu llythyr fy hun i'r pwyllgor er mwyn rhoi'r newyddion diweddaraf am y newidiadau hyn cyn diwedd y mis, yn unol â'r cais.

 

Goblygiadau Ariannol :  Dim.  Bydd y costau’n cael eu talu o gyllidebau sydd eisoes yn bodoli.

 

 

Argymhelliad 6. Fel rhan o'i chynllun cyfathrebu, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y newidiadau yn nhaliadau cyfalaf Glastir yn cael eu hesbonio'n glir, a bod pob rhanddeiliad yn eu deall.

 

Ymateb: Derbyn

 

Fel rhan o'r broses Pwyso a Mesur Glastir, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo dros gyfnod nesaf y rhaglen i ychwanegu tri mis arall at y cyfnod cyflawni gwaith cyfalaf, er mwyn caniatáu dau aeaf llawn ar gyfer cwblhau'r gwaith o blannu coed ac adfer perthi.  Bydd hyn yn cael ei egluro drwy Gwlad a sianelau cyfathrebu eraill pan fo'n briodol.

 

Goblygiadau Ariannol :  Dim.

 

 

Argymhelliad 7. Dylai Llywodraeth Cymru egluro ymhellach yr amserlen ar gyfer cynnal adolygiadau cyfnodol o'r cyfraddau tâl, a nodi'n glir y meini prawf y bydd yn eu defnyddio i benderfynu cynnal adolygiad ai peidio.

 

Ymateb: Derbyn

 

Nid yw Llywodraeth Cymru'n teimlo y byddai'n briodol cyflwyno amserlen benodol i adolygu cyfraddau tâl na lwfans pwyntiau. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i fonitro'r Arolwg Busnes Fferm am unrhyw newid sylweddol mewn incwm fferm, gan wneud newidiadau yn ôl y gofyn i sicrhau bod ad-daliadau yn unol â ffactorau economaidd. Dylid atgoffa aelodau bod taliadau Glastir wedi'u seilio ar incwm a ildiwyd a chostau a ysgwyddwyd, felly gall gostyngiad mewn elw gros a gofnodwyd gan yr Arolwg Busnes Fferm hefyd olygu bod angen gostwng taliadau Glastir.

 

Goblygiadau Ariannol :  Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu talu o gyllidebau sydd eisoes yn bodoli.

 

 

Argymhelliad 8. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y posibilrwydd o adolygu cynllun cyffredinol taliadau Glastir, gan ystyried rheolau'r UE a Sefydliad Masnach y Byd yn ymwneud â'r cynllun, ond gan ystyried hefyd waith Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac asiantaethau cefn gwlad eraill yn y DU sydd ynghlwm wrth y maes.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud pob ymdrech i sicrhau y gwneir y defnydd gorau o daliadau Colofn 2 o fewn cwmpas rheolau’r Rheoliadau Datblygu Gwledig nesaf.

 

Goblygiadau Ariannol :  Dim.

 

 

Argymhelliad 9. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r sector coedwigaeth i asesu effaith Glastir ar y sector hwnnw ac i benderfynu sut y caiff mesurau i gynorthwyo'r sector coedwigaeth fasnachol eu cynnwys yng ngwaith y corff Adnoddau Naturiol newydd. Mae'r Pwyllgor yn credu y dylid rhoi mesurau ar waith cyn pen blwyddyn ar ôl i'r un corff amgylcheddol newydd ddechrau ar ei waith.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i weithio'n agos gyda'r sector coedwigaeth fasnachol. Mae Glastir - Rheoli Coetir yn rhoi cyfle i goedwigaeth fasnachol dderbyn taliadau am ddarparu gwasanaethau a nwyddau amgylcheddol. Mae consesiynau sylweddol wedi’u gwneud mewn perthynas â’r gofynion ailstocio er mwyn lleihau’r graddau y maent yn mynd y tu hwnt i’r lleiafswm rheoleiddiol.

 

Hyd at 1 Ionawr 2014 bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu Glastir – Creu Coetir ar ran Llywodraeth Cymru. Mae cynllun Glastir - Rheoli coetir yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. O 1 Ionawr 2014 ymlaen, felly, ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n darparu unrhyw gefnogaeth uniongyrchol i'r sector coedwigaeth.

 

Ar hyn o bryd, mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru'n cyfranogi mewn nifer o weithgorau sy'n datblygu Cynllun Datblygu Gwledig newydd 2014-20. Fel rhan o'r gwaith hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu argymhellion ar gyfer cynllun newydd, gan ddefnyddio'r enw dros dro 'Cynllun Datblygu Busnesau Sector Coedwigaeth'. Mae wedi'i anelu at bob busnes gan gynnwys busnesau masnachol, mwy er mwyn helpu i wella’u proffidioldeb. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n parhau i gynnig cyngor ynghylch darparu a rheoli grantiau, er mwyn cyflawni amrywiol ganlyniadau.

  

Goblygiadau Ariannol :  Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol o ganlyniad i'r argymhelliad hwn yn cael eu talu o gyllidebau rhaglenni sydd eisoes yn bodoli.

 

 

Argymhelliad 10. Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ymgynghori'n llawn â rhanddeiliaid am newid opsiynau Glastir pan fydd yn adolygu'r cynllun wedi i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin newydd gael ei gyflwyno.

 

Ymateb:  Derbyn   

 

Cynlluniwyd Glastir i fedru croesi i'r Cynllun Datblygu Gwledig nesaf ac ategu taliadau Colofn 1 PAC heb newidiadau sylweddol. Ar ôl cyflwyno’r rheoliadau newydd bydd cyfle i adolygu a chyflwyno rhai newidiadau, fel sydd yn cael ei dderbyn o fewn yr adroddiad Pwyso a Mesur. Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i ymgynghori â rhanddeiliad ynghylch materion o'r fath.

 

Goblygiadau Ariannol :  Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu talu o gyllidebau sydd eisoes yn bodoli.